Thursday 30 September 2010

C2 sgwrs gyda Magi Dodd

Nos Iau 30.9.10 bydd Gwydion yn westai arbennig ar raglen Magi Dodd. Cofiwch wrando!

Sunday 19 September 2010

CWRW, CHIPS A DARLITH DEG- Ymarferion Wythnos 1.


Wythnos 1.
Gwener.
Pnawn.

Ma’ gan Gwydion, ein actor edrychiad braidd yn ‘spaced out’ are ei wyneb. Be wnai? Ma’ taro fe ar ei ben ‘da padell ffrio yn opsiwn, ond ma’ synnwyr yn dweud efallai ei fod yn dioddef o ‘information overload’ gan ein bod wedi ymarfer heb stop am bum diwrnod ar y sioe un dyn 'Cwrw, Chips a Darlith Deg'. Y mae fel petai yn ochorgamu ei ffordd trwy’r testun ac yn taclo a gorchfygu’r sgript heb unrhyw anhawster ar hyn o bryd. Efallai y dylai carfan tim rygbi Cymru ddwyn cwpwl o ‘tips’ wrtho!
Felly be wnai, be wnai? Wy’n gwbod. Mi wnai ofyn iddo ddawnsio. “Hey Gwydion, dawnsia dy ffordd drwy’r sioe”.>!!!!!!!!, medde fe. Ond dawnsio a wnaeth.

Diwedd yr wythnos gyntaf, ac yr ydym hanner ffordd trwy’r sgript. Wedi i ni dreulio’r diwrnod cyntaf yn diffinio ac yn braslinio’r 15+ o gymeriadau y mae’n rhaid iddo bortreadu, y mae’r sioe erbyn hyn yn datblygu rhythm bach ei hun, fel petai rhyw fath o lif neu cerrynt pendant yn perthyn iddo. Mae wedi bod yn wythnos eithaf technegol i Gwydion. Ail adrodd edrychiad, cipolwg bach neu rhyw bwyslais sydd angen, ond y mae’r holl beth wedi ei eni drwy ymchwilio’r text a’r byd bach hyfryd hynny y galwn yn Silent Étude. Profiad hyfryd ydy cerflunio a dadansoddi yr hyn y mae Gwydion yn darganfod yn y munudau greddfol hynny, a llunio’r holl beth i fewn i rhyw fath o ballet. Funny, ma’ fe’n teimlo fel petai’n dawnsio! Rhyfeddol.
“Hey Gwydion, wyt ti’n dawnsio?”
“Pam? Ti’n gofyn?”


Mae'r blog yma yn 'featured blog' ar NTW yr wythnos hon:-
http://community.nationaltheatrewales.org/profiles/blogs/cwrw-chips-a-darlith-deg-week



http://www.angharadlee.com/


Wednesday 15 September 2010

Cwrw, Chips a Wedi 7

Trydydd diwrnod ymarfer Cwrw, Chips heddi a heno bydd Gwydion ar soffa cyfforddus Wedi 7 yn son am faint mae'n mwynhau gweithio i Arad Goch, pa mor neis mae pawb sy'n gweithio yno a faint o hwyl sydd i gael yn Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Mae angen i mi sortio'r rhaglen, cysylltu a Cardiff City FC, gwneud yn siwr bod pawb yn y byd yn gwydod ble allent weld perfformiad a dechre meddwl am yr Opening Night Party. Wel, allwn ni ddim neud cynhyrchiad ymbiti stiwdent heb gael cwpwl o nosweithie mas!

Clatsh arni de,
Carys
Yr Adran Farchnata