Sunday 19 September 2010

CWRW, CHIPS A DARLITH DEG- Ymarferion Wythnos 1.


Wythnos 1.
Gwener.
Pnawn.

Ma’ gan Gwydion, ein actor edrychiad braidd yn ‘spaced out’ are ei wyneb. Be wnai? Ma’ taro fe ar ei ben ‘da padell ffrio yn opsiwn, ond ma’ synnwyr yn dweud efallai ei fod yn dioddef o ‘information overload’ gan ein bod wedi ymarfer heb stop am bum diwrnod ar y sioe un dyn 'Cwrw, Chips a Darlith Deg'. Y mae fel petai yn ochorgamu ei ffordd trwy’r testun ac yn taclo a gorchfygu’r sgript heb unrhyw anhawster ar hyn o bryd. Efallai y dylai carfan tim rygbi Cymru ddwyn cwpwl o ‘tips’ wrtho!
Felly be wnai, be wnai? Wy’n gwbod. Mi wnai ofyn iddo ddawnsio. “Hey Gwydion, dawnsia dy ffordd drwy’r sioe”.>!!!!!!!!, medde fe. Ond dawnsio a wnaeth.

Diwedd yr wythnos gyntaf, ac yr ydym hanner ffordd trwy’r sgript. Wedi i ni dreulio’r diwrnod cyntaf yn diffinio ac yn braslinio’r 15+ o gymeriadau y mae’n rhaid iddo bortreadu, y mae’r sioe erbyn hyn yn datblygu rhythm bach ei hun, fel petai rhyw fath o lif neu cerrynt pendant yn perthyn iddo. Mae wedi bod yn wythnos eithaf technegol i Gwydion. Ail adrodd edrychiad, cipolwg bach neu rhyw bwyslais sydd angen, ond y mae’r holl beth wedi ei eni drwy ymchwilio’r text a’r byd bach hyfryd hynny y galwn yn Silent Étude. Profiad hyfryd ydy cerflunio a dadansoddi yr hyn y mae Gwydion yn darganfod yn y munudau greddfol hynny, a llunio’r holl beth i fewn i rhyw fath o ballet. Funny, ma’ fe’n teimlo fel petai’n dawnsio! Rhyfeddol.
“Hey Gwydion, wyt ti’n dawnsio?”
“Pam? Ti’n gofyn?”


Mae'r blog yma yn 'featured blog' ar NTW yr wythnos hon:-
http://community.nationaltheatrewales.org/profiles/blogs/cwrw-chips-a-darlith-deg-week



http://www.angharadlee.com/


No comments:

Post a Comment