Wednesday 15 September 2010

Cwrw, Chips a Wedi 7

Trydydd diwrnod ymarfer Cwrw, Chips heddi a heno bydd Gwydion ar soffa cyfforddus Wedi 7 yn son am faint mae'n mwynhau gweithio i Arad Goch, pa mor neis mae pawb sy'n gweithio yno a faint o hwyl sydd i gael yn Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Mae angen i mi sortio'r rhaglen, cysylltu a Cardiff City FC, gwneud yn siwr bod pawb yn y byd yn gwydod ble allent weld perfformiad a dechre meddwl am yr Opening Night Party. Wel, allwn ni ddim neud cynhyrchiad ymbiti stiwdent heb gael cwpwl o nosweithie mas!

Clatsh arni de,
Carys
Yr Adran Farchnata

1 comment:

  1. ...gwneud yn siwr bod pawb yn y byd yn gwydod ble allent weld perfformiad...

    Dw i ddim eisiau swnio'n ddigwilidd, ond mae rhoi dolen at ddyddiadau'r perfformiadau yn eich cofnod blog yn le da i gychwyn!

    ReplyDelete