Monday 21 February 2011

SXTO



Dafydd Evans a Nia Ann - Dau o gast SXTO yn ymarfer yng Nghanolfan Arad Goch. Chwefror 2011.

SXTO neu ‘Sexting’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r math o fwlian sy’n digwydd trwy neges destun, gan amlaf trwy anfon llun anweddus neu neges gas, ac mae’n broblem gynyddol ymhlith pobl ifanc ac o fewn Ysgolion. Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn cydweithio â Chyngor Sir Gaerfyrddin ar brosiect i greu ymwybyddiaeth o sgil effeithiau SXTO.

Rydym yn hynod o falch fod yr awdur a'r gyflwynwraig Bethan Gwanas wedi cytuno i gydweithio ar y prosiect hwn. Mae Bethan eisioes wedi creu cyfres o olygfeydd dramatig sy'n ymdrin â'r math o sefyllfaoedd sy'n codi mewn ysgolion, wrth i bobl ifanc anfon lluniau anweddus trwy neges destun.

Dan gyfarwyddyd Angharad Lee a chast o actorion ifanc; Nia Ann, Dafydd Evans, Endaf Davies a Lowri Sion, bydd y golygfeydd hyn yn teithio o amgylch ysgolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro o'r 28ain o Chwefror am 5 wythnos.

Defnyddir technegau Theatr Fforwm o fewn y cynhyrchiad, er mwyn annog y gynulleidfa ifanc i ymateb a thrafod y golygfeydd unigol, er mwyn meddwl beth fydden nhw'n ei wneud neu'n newid petaen nhw yn yr un sefyllfa.

Er mwyn parhau'r drafodaeth a datblygu'r stori a'r cymeriadau, bydd adnodd rhyngweithiol yn cael ei greu er mwyn i bobl ifanc drafod, rhannu profiadau a datblygu'r stori. Y nod yn y pendraw yw i Bethan greu sgript ar gyfer sioe lwyfan gan ddefnyddio mewnbwn, trafodaethau a syniadau'r bobl ifanc.

Bydd manylion am y blog yn cael ei ychwanegu yma'n fuan iawn felly gwyliwch y gofod!

No comments:

Post a Comment