Tuesday 8 March 2011

Lowri Sion yn hel atgofion am wythnos gyntaf taith SXTO





'Wel fi ffili credu bod wythnos gyntaf y daith wedi dod i ben yn barod, ac am wythnos greadigol a chyffrous!

Gan mai perfformiad Theatr Forwm yw SXTO, fi'n whare rol y cysylltydd er mwyn pontio rhwng yr actorion a'r gynulleidfa. Yn dilyn y perfformiad byddai'n annog y gynulleidfa i drafod y pynciau, y cymeriadau a rhannu eu syniade am sut allwn ni ddatblygu a gwella'r sefyllfaoedd sy'n wynebu'r cymeriade.

Casglu'r syniade a barn y bobl ifanc sy'n bwysig yn y rhan yma o'r prosiect, er mwyn datblygu'r script ymhellach, a ni di cal amrywiaeth gret o syniade yr wythnos hon, mae na bobl ifanc glyfar a chreadigol tu hwnt yn Ysgolion Ceredigion!

Roedd gan pob grwp syniad newydd iw gynnig, megis syniadau ar gyfer yr olygfa ddylai ddod nesaf. Syniad un grwp oedd lleoli yr olygfa hon, sef golygfa 6, mewn gorsaf heddlu, ac yn ystod yr olygfa dylai'r cymeriadau; Meic, Gav a Lowri gael eu cwestiynnu er mwyn dod i nabod nhw yn well a deall ychydig am eu cefndir a'u bwyyd teuluol.

Syniad arall oedd i Gav ddatgelu ei deimladau 'go iawn' tuag at Lowri, oherwydd ym marn y grwp hwnnw mae Gavin mewn cariad gyda Lowri a dyna pam ei fod yn bihafio fel y mae o.

Yn ol grwp arall, dylai Lowri symud Ysgol o ganlyniad i'r achos o SXTO er mwyn dechrau bywyd newydd. Rydw i'n recordiuo pob un o'r syniadau er mwyn eu trosglwyddo i Bethan Gwanas gan mai hi fydd a'r dasg o ysgrifennu rhan nesaf y sgript,ac o feddwl am yr holl syniadau rydym wedi eu casglu yn barod, mae'n annodd gwybod sut bydd hi'n llwyddo i ddewis o'r holl syniadau da yma!

Yn ogystal a meddwl am ffyrdd o ddatblygu'r stori a'r cymeriadu rydw i hefyd yn holi i'r bobl ifanc ddisgrifio'r sefyllfaoedd a'r golygfeydd mewn un gair, ac o ystyried bod y mwyafrif yn ymwybodol o SXTO, roedd eu hymateb i'r cwestiwn hwn yn ddiddorol iawn.

"Scary", "interesting", "Funny", "Pervy". Amrywiaeth eang iawn. Edrych mlan at glywed mwy o syniadau yn ystod ein ymweliad a Sir Gar wythnos nesaf!

No comments:

Post a Comment