Wednesday 2 March 2011

Disgyblion Ysgol yn llawn syniadau am sut i ddatblygu sgript SXTO





Yn ystod y dyddiau diwethaf mae cast a chriw SXTO wedi teithio o Dregaron i Aberystwyth a mlaen i Aberaeron i berfformio cynhycrhiad cyntaf y prosiect SXTO. Wedi ei berfformio yn arddull Theatre Forwm, mae cyfle i'r disgyblion ymateb i'r sefyllfaoedd sy'n codi, a thrafod syniadau am sut i ddatblygu'r sgript dros y dair mlynnedd nesaf.

'Mae'r disgyblion yn greadigol iawn wrth feddwl am sut i ddatblygu'r stori a'r cymeriadau, ac wrth feddwl am sut i ddelio a'r sefyllfaoedd annodd sy'n codi o fewn y cynhyrchiad' Lowri Sion, Cyflwynydd y Prosiect.

Yn ogystal a thrin a thrafod syniadau, mae cyfle i'r disgyblion ymuno mewn gyda'r cast i ddatblygu llif y stori, ac maen her i'r actorion ymateb i'r sefyllfaoedd ar y pryd.

'Rydw i'n hoff iawn o waith byr fyfyr, ac mae'n gyffrous i weld y disgyblion yn codi ac yn ymuno mewn gan newid y stori a gofyn inni ymateb i'r sefyllfaoedd newydd ar y pryd' Nia Ann, actores sy'n chware cymeriad Lowri, yr athrawes a'r Brifathrawes yn y cynhyrchiad presennol.

Yn ystod y daith bydd Lowri Sion yn recordio syniadau ac ymatebion y disgyblion er mwyn eu trosglwyddo i'r awdures Bethan Gwanas. Dros y flwyddyn nesaf bydd Bethan yn pori trwy'r syniadau hyn er mwyn creu sgript cyflwan ar y testun o fewn y ddwy flynnedd nesaf.

Edrychwn ymlaen i glywed mwy am ddatblygiadau'r daith ymhen y dyddiau nesaf!

No comments:

Post a Comment